Search

GC757 Gweithiwr Cefnogi Atal Digartrefedd (Yr Hafod) (Dros Dro) / Homelessness Prevention Support Worker (Yr Hafod) (Dros Dro)

Grwp Cynefin
locationDenbigh LL16, UK
PublishedPublished: Published today
Full Time
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy'n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu'r iaith Gymraeg gyda balchder.

Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i'r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy'n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno a'n tim. Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r person cywir a rhywun sy'n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

Fel aelod o'r Tîm Atal Digartrefedd byddwch yn cynnig profiad gweithiwr cymorth i unigolion bregus a bydd gennych wybodaeth am weithio o fewn elusen neu sefydliad sector cyhoeddus, lle rydych wedi mentora a chefnogi yn llwyddiannus. Bydd gennych ymwybyddiaeth gynhwysfawr o gefnogi pobl bregus a gwybodaeth a phrofiad o ysgogi hyder, hunan-barch ac annibyniaeth.

Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa a'r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw'r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch a Catryn Harvey, Arweinydd Tîm, ar 0300 111 2122.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Dros Dro (6 mis)

Cyflog: £24,492 - £26,762 y flwyddyn (pro rata)

Oriau Gweithio: 14 awr yr wythnos

Lleoliad: Dinbych

Gwyliau: 36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol pro rata

Teithio: Defnyddiwr car achlysurol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Disgrifiad Swydd

2026 DS GC Atal Digartrefedd.pdf

2026 JD GC Homelessness Prevention.pdf

Buddiannau

Pecyn Buddion.pdf

Benefits Package.pdf

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf

Privacy Notice Job Applicant.pdf

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Guidelines for completing your application.pdf

Dyddiad y cyfweliadau: 08.05.26

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.