Search

GC770 Swyddog Cymorth Tai (unigolion dros 55 oed) / Housing Support Officer (individuals over 55 years of age)

Grwp Cynefin
locationLlangefni, UK
PublishedPublished: Published today
Social care
Full Time
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.

Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.

Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.

Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.

Gyda 350 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.

Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn yn Eich Cymuned

Ydych chi'n angerddol am helpu pobl ac yn awyddus i ddefnyddio eich sgiliau i greu newid cadarnhaol? Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, empathig ac ymroddedig i ymuno â'n Tîm Atal Digartrefedd ar Ynys Môn.

Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i weithio mewn rôl heriol ond hynod wobrwyol, lle byddwch yn cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau, magu annibyniaeth a sicrhau dyfodol mwy sefydlog.

Yn y rôl hon, byddwch yn:

Atal digartrefedd a newid bywydau drwy ddarparu cymorth ac arweiniad o ansawdd uchel i unigolion ag anghenion amrywiol.

Gweithio fel rhan o dîm cefnogol ac ymroddedig, gan gydweithio â'r Arweinydd Tîm a phartneriaid lleol i gyflawni nodau'r gwasanaeth.

Grymuso pobl i gyflawni eu potensial, gan ganolbwyntio ar atebion cadarnhaol, annibyniaeth a llesiant hirdymor.

Bod yn bwynt cyswllt allweddol i unigolion bregus, gan asesu anghenion, blaenoriaethu risg a sicrhau'r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir.

Darparu 'Cefnogaeth a Mwy', drwy fabwysiadu dull person-ganolog a chyfannol sy'n rhoi pobl wrth galon popeth a wnawn.

Pam ymuno â ni?

Mae pob diwrnod yn gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd ac yn credu mewn rhoi'r person yn gyntaf, hoffem glywed gennych.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Mared Jones, Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd, ar 0300 111 2122.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £25,227 - £27,565 y flwyddyn

Lleoliad: Llangefni / Gweithio yn y gymuned

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos Llun i Gwener

Rota Llun - Sul, 09:00 - 17:00 (09:00 -12.30 ar benwythnosau)

Oriau swyddfa safonol gan gynnwys oriau anghymdeithasol o bryd i'w gilydd

Gwyliau: 36 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn (25 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw) gan gynyddu i 41 diwrnod pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth (30 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw

Teithio: 45 ceiniog y filltir

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Disgrifiad Swydd

DS Swyddog Cymorth Tai 0726

JD Housing Support Officer 0726.pdf

Buddiannau

Pecyn Buddion.pdf

Benefits Package.pdf

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf

Privacy Notice Job Applicant.pdf

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Guidelines for completing your application.pdf

Dyddiad y cyfweliadau: 03.08.26

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.