Search

GOR047 Gweithiwr Cefnogaeth Atal Digartrefedd / Homelessness Prevention Support Worker

Grwp Cynefin
locationDenbigh LL16, UK
PublishedPublished: Published 1 month ago
Homelessness
Full time
Chwilio am swydd ym maes cefnogi?

Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin sydd wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy'n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu'r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i'r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy'n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Mae Gorwel yn darparu gwasanaethau o safon i:

  • gefnogi pobl sy'n dioddef trais yn y cartref
  • gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd
Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Mae ein prosiectau'n cynnwys llochesi, cynlluniau tai â chefnogaeth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cefnogaeth yn y gymuned a gwasanaeth ymgynghorwyr annibynnol trais yn y cartref. Ar gyfartaledd rydym yn cefnogi hyd at 650 o bobl yr wythnos ac mae gennym dros 70 o staff cyflogedig proffesiynol.

Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych a Dolgellau.

Darpariaeth Atal Digartrefedd Sir Ddinbych.

Cynllun Tai â Chefnogaeth, Yr Hafod

Mae hwn yn brosiect cymorth cysylltiedig â thai ar gyfer pobl rhwng 16 a 25 oed, o'r naill ryw neu'r llall, heb unrhyw blant dibynnol. Mae'n brosiect cymorth symudol a thai â chymorth dwysedd uchel, sy'n cynnwys 6 uned o lety â chymorth a fydd yn cael eu staffio 24 awr y dydd, a 6 uned o gymorth symudol.

Bydd yr holl bobl ifanc a gefnogir yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, a byddant wedi'u nodi fel rhai sydd angen cymorth mewn nifer o feysydd i'w galluogi i reoli eu daliadaeth tai yn annibynnol (e.e. eu tenantiaeth).

Bydd cymorth yn hyblyg ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ond gall gynnwys pethau fel cyllidebu, gan gynnwys cael gafael ar gyngor ariannol; datblygu sgiliau bywyd; sicrhau diogelwch, a chael mynediad at wasanaethau a chyfleoedd defnyddiol eraill.

Gall anghenion cymorth pobl sy'n defnyddio'r prosiect hwn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) un neu bob un o'r canlynol:

  • Digartrefedd, gan gynnwys cysgu allan
  • Iechyd meddwl a lles
  • Problemau'n ymwneud â defnyddio sylweddau (cyffuriau a/neu alcohol) - gallai hyn gynnwys unigolion sydd angen dull lleihau niwed, a/neu'r rhai sydd mewn gwahanol gamau o driniaeth a gwellhad.
  • Ymddygiad troseddol parhaus neu gyn-droseddwyr
  • Dioddefwyr (neu'r rhai sydd mewn perygl) o gam-drin domestig, trais rhywiol, neu drais arall
  • Anableddau dysgu ac anawsterau dysgu
  • Sgiliau llythrennedd a/neu rifedd gwael
  • Anhwylderau datblygiadol (e.e. awtistiaeth)
  • Anableddau corfforol neu synhwyraidd
  • Salwch cronig (gan gynnwys HIV ac AIDS)
  • Problemau ymddygiad
  • Gadael gofal, ac anghenion cymorth person ifanc eraill
  • Anghenion lluosog a chymhleth, gan gynnwys trawma cymhleth
Mae'r Hafod yn cydweithio'n agos gyda'r HWB Dinbych sydd yn rhan o'r un adeilad. Mae'r HWB yn trefnu gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc i'w cynorthwyo i baratoi ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, bydd cyfleodd i ddysgu sgiliau newydd ac i chwilio am waith.

Beth fydd ei angen arnoch chi i lwyddo yn y rôl hon .....

Byddwch yn cynnig profiad gweithiwr cymorth i unigolion bregus a bydd gennych wybodaeth am weithio o fewn elusen neu sefydliad sector cyhoeddus, lle rydych wedi mentora a chefnogi yn llwyddiannus. Bydd gennych ymwybyddiaeth gynhwysfawr o gefnogi pobl bregus a gwybodaeth a phrofiad o ysgogi hyder, hunan-barch ac annibyniaeth.

Eich personoliaeth......

Byddwch yn hyderus gyda'r gallu i weithio gyda phob grŵp oedran, yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu gwych cydberthnasau a gweithio ar y cyd gydag ystod eang o bartneriaid cyflenwi, academaidd sefydliadau a phlant / pobl ifanc. Byddwch yn drefnus iawn, yn gallu addasu i newid, yn gadarn, yn wydn ac yn mwynhau cymell unigolion sydd ag angerdd i gefnogi unigolion bregus.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £24,083 - £26,315 y flwyddyn (Lwfans Ar Alwad a Lwfans Cysgu Mewn yn ychwanegol)

Oriau: 35 awr ar sail rota

Gwyliau: 36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol pro rata

Teithio: Trwydded yrru gyfredol lawn

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf

Y Swydd

Canllawiau sut i ymgeisio: Canllawiau cwblhau cais.pdf

Disgirifad swydd: DS Gweithiwr Cefnogi Digartrefedd Yr Hafod 03.2025.pdf

Job Description: JD Homelessness Prevention Support Worker - Yr Hafod -03.2025.pdf

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.