Search

Gweithiwr Cefnogaeth Atal Digartrefedd / Homelessness Prevention Support Worker

Grwp Cynefin
locationPwllheli, UK
PublishedPublished: Published today
Full Time
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.

Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.

Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.

Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.

Gyda 350 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.

Barod i wneud gwahaniaeth go iawn? Ymunwch â'n tîm Atal Digartrefedd!

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol, cefnogol ac ymroddedig i ddod yn rhan o'n tîm sy'n newid bywydau. Os ydych yn ffynnu mewn amgylchedd heriol ac eisiau gwneud effaith gadarnhaol bob dydd - dyma'r rôl i chi.

Eich cyfle i wneud effaith:

Fel aelod allweddol o'r Tîm Atal Digartrefedd, byddwch yn darparu cymorth o'r radd flaenaf i unigolion mewn tai â chymorth ac yn y gymuned - gan gefnogi pobl ag anghenion isel, canolig ac uchel i ffynnu a symud ymlaen yn hyderus.

Beth fyddwch yn ei wneud?

  • Darparu cefnogaeth o ansawdd uchel sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl
  • Gweithio'n agos gydag Arweinydd y Tîm a phartneriaid cymunedol i gyflawni nodau'r cynllun
  • Galluogi unigolion i atal digartrefedd drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol a pharhaol
  • Bod yn bwynt cyswllt allweddol i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan flaenoriaethu eu hanghenion a rheoli risg yn effeithiol
  • Sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn cefnogaeth bersonol, holistig sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl - 'cefnogaeth a mwy'
Pam ymuno â ni?
Byddwch yn rhan o dîm blaengar sy'n ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth sy'n rhoi pobl wrth galon popeth - gan helpu i adeiladu dyfodol mwy diogel a sefydlog i'n cymunedau.

Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa a'r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw'r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Mared Haf Jones, Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd, ar 0300 111 2122.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £25,227 - £27,565

Lleoliad: Pwllheli / Gweithio o gartref

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 36 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn (25 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw) gan gynyddu i 41 diwrnod pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth (30 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw

Teithio: 45 ceiniog y filltir

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Disgrifiad Swydd

DS Gweithiwr Cefnogi Atal Digartrefedd 0626.pdf

JD Homelessness Prevention Support Worker 0626.pdf

Buddiannau

Pecyn Buddion.pdf

Benefits Package.pdf

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf

Privacy Notice Job Applicant.pdf

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Guidelines for completing your application.pdf

Dyddiad y cyfweliadau: 23.07.26

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.