Search

Gweithiwr Cefnogi Atal Digartrefedd Gwynedd / Homelessness Prevention Support Worker Gwynedd

Grwp Cynefin
locationPwllheli, UK
PublishedPublished: Published 1 week ago
Homelessness
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy'n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu'r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i'r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy'n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin sy'n darparu gwasanaethau o safon i:

  • gefnogi pobl sy'n dioddef trais yn y cartref
  • gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd
Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Mae ein prosiectau'n cynnwys llochesi, cynlluniau tai â chefnogaeth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cefnogaeth yn y gymuned a gwasanaeth ymgynghorwyr annibynnol trais yn y cartref. Ar gyfartaledd rydym yn cefnogi hyd at 650 o bobl yr wythnos ac mae gennym dros 70 o staff cyflogedig proffesiynol.

Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych, Dolgellau a Blaenau Ffestiniog.

Gwasanaethau Atal Digartrefedd yng Ngwynedd, Sir Ddinbych ac Ynys Môn

Gwynedd - Llys Seion

Mae Cynllun Llys Seion yn safle gyda 6 o fflatiau ym Mhwllheli ar gyfer unigolion a theuluoedd digartref er mwyn cynnig cefnogaeth a chyngor i fyw yn annibynnol. Mae'r Cynllun Cefnogaeth Symudol yn wasanaeth ar gyfer trigolion Gwynedd er mwyn cefnogi teuluoedd ac unigolion i fyw yn eu cartref yn llwyddiannus ac annibynnol.

Cynllun Cydgysylltydd Digartrefedd Gwynedd

Nod y gwasanaeth yw darparu gwasanaeth cefnogi o ansawdd uchel mewn perthynas â thai ar gyfer pobl sengl a theuluoedd 16 oed a throsodd, sydd ag anghenion aml gefnogaeth a allai gynnwys cyfuniad o faterion megis digartrefedd, camddefnyddio sylweddau, cefndir o droseddu, iechyd meddwl a phroblemau anabledd dysgu lefel isel. Bydd y gwasanaeth yn targedu'r bobl hynny sydd ag anghenion cefnogaeth uchel.

Sir Ddinbych

Yr Hafod

Prosiect tai â chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-25 oed ac sydd wedi ei leoli yn Ninbych yw'r Hafod. Bydd staff yn gweithio gyda phobl ifanc er mwyn cynllunio ar gyfer eu dyfodol drwy gynorthwyo ac annog sgiliau i reoli tenantiaeth ac i feithrin sgiliau er mwyn cael mynediad i waith.

Mae'r Hafod yn cydweithio'n agos gyda'r HWB sydd yn rhan o'r un adeilad. Eto yn yr Hafod, mae Cynllun Cefnogaeth Symudol ar gael i bobl ifanc 16-25 oed sydd angen cefnogaeth i sefydlu a chynnal eu tenantiaeth yn lleol.

Gwasanaethau Trais yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Môn

Llochesi a chefnogaeth mewn argyfwng

Mae Gorwel yn darparu Gwasanaeth Trais yn y Cartref yng Ngwynedd ac Ynys Môn gan gynnwys pedair lloches mewn pedwar lleoliad cyfrinachol sydd yn llety argyfwng 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos i ferched a'u plant sydd yn dianc oddi wrth trais yn y cartref.

Cynllun Cefnogaeth Symudol

Mae'r Cynllun Cefnogaeth Symudol gennym yn cefnogi merched, dynion a'u teuluoedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Byddwch yn cefnogi ac ysgogi defnyddwyr gwasanaeth er mwyn llwyddo i fyw bywyd di-drais a'u helpu i adennill rheolaeth dros eu bywydau er mwyn hybu annibyniaeth.

Os oes gennych yr ysfa a'r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw'r swydd i chi.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Tymor penodol hyd 31/12/2025

Cyflog: £24,493 y flwyddyn pro rata

Gwyliau: 36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol pro rata

Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Buddiannau

Pecyn Buddion.pdf

Benefits Package.pdf

Sut i Ymgeisio am y swydd

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Disgrifiad Swydd: DS Gweithiwr Cefnogi Atal Digartrefedd Gwynedd 07.2025.pdf

Job description: JD Gwynedd Support Worker Homeless Prevention 07.25.pdf

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.