Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd / Homelessness Prevention Services Manager
Grwp Cynefin
Penygroes, Caernarfon LL54, UK
Published 2 days ago
Homelessness
Full time
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy'n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu'r iaith Gymraeg gyda balchder.
Mae dau is-gwmni hefyd yn weithredol o dan ambarél Grŵp Cynefin: Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych sy'n gweithio i helpu pobl hŷn drwsio, addasu, cynnal a chadw eu cartrefi fel y gallent barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin sy'n darparu gwasanaethau o safon i:
Mae ein prosiectau'n cynnwys llochesi, cynlluniau tai â chefnogaeth, gwasanaethau plant a phobl ifanc a chefnogaeth yn y gymuned. Ar gyfartaledd rydym yn cefnogi hyd at 650 o bobl yr wythnos ac mae gennym dros 70 o staff cyflogedig proffesiynol.
Mae trosiant ariannol Gorwel yn £2.2m, gyda chynlluniau yn cael eu ariannu gan Grant Cymorth Tai, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru.
Gwasanaethau AtalDigartrefedd yng Ngwynedd, Sir Ddinbych ac Ynys Môn
Gwynedd
Llys Seion
Mae Cynllun Llys Seion yn safle gyda 6 o fflatiau ym Mhwllheli ar gyfer unigolion a theuluoedd digartref er mwyn cynnig cefnogaeth a chyngor i fyw yn annibynnol. Mae'r Cynllun Cefnogaeth Symudol yn wasanaeth ar gyfer trigolion Gwynedd er mwyn cefnogi teuluoedd ac unigolion i fyw yn eu cartref yn llwyddiannus ac annibynnol.
Cynllun Cydgysylltydd Digartrefedd Gwynedd
Nod y gwasanaeth yw darparu gwasanaeth cefnogi o ansawdd uchel mewn perthynas â thai ar gyfer pobl sengl a theuluoedd 16 oed a throsodd, sydd ag anghenion aml gefnogaeth a allai gynnwys cyfuniad o faterion megis digartrefedd, camddefnyddio sylweddau, cefndir o droseddu, iechyd meddwl a phroblemau anabledd dysgu lefel isel. Bydd y gwasanaeth yn targedu'r bobl hynny sydd ag anghenion cefnogaeth uchel.
Sir Ddinbych
Yr Hafod
Prosiect tai â chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-25 oed ac sydd wedi ei leoli yn Ninbych yw'r Hafod. Bydd staff yn gweithio gyda phobl ifanc er mwyn cynllunio ar gyfer eu dyfodol drwy gynorthwyo ac annog sgiliau i reoli tenantiaeth ac i feithrin sgiliau er mwyn cael mynediad i waith.
Mae'r Hafod yn cydweithio'n agos gyda'r HWB sydd yn rhan o'r un adeilad. Eto yn yr Hafod, mae Cynllun Cefnogaeth Symudol ar gael i bobl ifanc 16-25 oed sydd angen cefnogaeth i sefydlu a chynnal eu tenantiaeth yn lleol.
Ynys Môn
Cynllun Cefnogaeth Symudol Pobl Hŷn
Mae'r prosiect yn darparu cefnogaeth sy'n gysylltiedig â'r cartref i bobl sy'n 55 oed ac yn hŷn yn Ynys Môn. Darperir y gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos, 9am - 5pm, ac mae'n darparu cymorth tymor byr, tymor canolig a thymor hir i alluogi pobl hŷn i fyw mor annibynnol ag y bo modd.
Rheolwr Gwasanaeth
Mae rôl Rheolwr Gwasanaeth Atal Digartrefedd yn cynnwys bod yn bwynt cyswllt ar gyfer 3 Arweinydd Tîm:
Sicrhau bod Gorwel yn cynnig darpariaeth o'r safon uchaf i pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau mewn cynlluniau cymunedol a thai â chefnogaeth, sydd yn cynnig gwerth am arian, gyda'r gwasanaethau yn teilwra i anghenion ein cwsmeriaid sy'n ymateb i Fframwaith Amgylchedd sy'n Wybodus o Safbwynt Seicolegol (PIE)
Beth fydd ei angen arnoch chi i lwyddo yn y rôl hon .....
Byddwch yn cynnig profiad gweithiwr cymorth i unigolion bregus a bydd gennych wybodaeth am weithio o fewn elusen neu sefydliad sector cyhoeddus, lle rydych wedi mentora a chefnogi yn llwyddiannus. Bydd gennych ymwybyddiaeth gynhwysfawr o gefnogi pobl bregus a gwybodaeth a phrofiad o ysgogi hyder, hunan-barch ac annibyniaeth.
Eich personoliaeth......
Byddwch yn hyderus gyda'r gallu i weithio gyda phob grŵp oedran, yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu gwych cydberthnasau a gweithio ar y cyd gydag ystod eang o bartneriaid cyflenwi, academaidd sefydliadau a phlant / pobl ifanc. Byddwch yn drefnus iawn, yn gallu addasu i newid, yn gadarn, yn wydn ac yn mwynhau cymell unigolion sydd ag angerdd i gefnogi unigolion bregus.
Adborth Defnyddwyr Gwasanaeth
"Braf cael rhywun yno, wedi rhoi cymaint o gymorth a chefnogaeth i mi i reoli fy arian a'm cartref."
"Maent bob amser yn mynd y tu hwnt i'r gofyn. Mae'r staff cefnogi wedi bod yn ffantastig, y ffordd maen nhw'n siarad gyda chi, byth yn edrych i lawr arnoch chi."
"Derbyniais gefnogaeth emosiynol a chefnogaeth gyda phroblemau cael mynediad i'm plentyn. Wedi bod trwy'r llys a'm helpu gyda materion cyfreithiol. Maent wedi bod yn fendith."
"Maent yn gwrando ar yr hyn sydd gennych i'w ddweud ac yn ymateb o fewn amser rhesymol."
"Rwy'n derbyn cefnogaeth dda iawn, maen nhw'n sortio fy mhroblemau tai, wedi fy helpu trwy brofedigaeth, ac wedi fy rhoi mewn cysylltiad â'r Tîm Iechyd Meddwl."
"Ni allaf ganu eu clodydd ddigon. Nid wyf yn gwybod beth fyddwn i wedi'i wneud hebddynt."
"Bu iddynt ddarparu cefnogaeth i mi mewn perthynas â gweithgareddau hamdden er mwyn gwella fy iechyd meddwl - mynediad i'r clwb hwylio, gwersi cyfrifiaduron a grwpiau cerdded. Bu i'm Gweithiwr Cefnogi fy helpu i gael grant ar gyfer fy nhrwydded yrru. Rwyf bellach nôl mewn gwaith, yn gweithio rhan-amser.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Penodol am 12 mis
Cyflog: £42,957 y flwyddyn pro rata
Oriau: 35 awr yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener ac yn rhan o'r rota ar alwad 7 diwrnod yr wythnos)
Gwyliau: 36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol
Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Buddiannau: Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Canllawiau cwblhau cais.pdf
Disgrifiad swydd: DS Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd 05.25.pdf
Job Description: JD Homelessness Prevention Services Manager 05.25.pdf
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd)ar gyfer y swydd hon.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

- gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd
- gefnogi pobl sy'n dioddef cam-drin domestig

- Arweinydd Tim Atal Digartrefedd Sir Ddinbych
- Arweinydd Tim Atal Digatrefedd Gwynedd
- Arweinydd Tim Atal Digartrefedd Ynys Môn (Pobl Hŷn)