Search

Swyddog Tai / Housing Officer

Grwp Cynefin
locationDenbigh LL16, UK
PublishedPublished: Published today
Housing officer
Full Time
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy'n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu'r iaith Gymraeg gyda balchder.

Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i'r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy'n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â'n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r person cywir a rhywun sy'n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Bydd deilydd y swydd gweithredu fel y prif gyswllt i'r Gymdeithas ar gyfer tenantiaid, darpar denantiaid a'r gymuned leol yn gyffredinol gan sicrhau gwasanaeth rheolaeth tai effeithiol fel bo Grŵp Cynefin yn rhagori: gosod eiddo yn deg ac yn effeithiol; uchafu incwm rhent y Gymdeithas; delio gydag achosion o ymddygiad gwrth gymdeithasol.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â'r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw a dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa a'r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw'r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Rhiannon Dafydd, Pennaeth Tai ar 0300 111 2122.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Y Pecyn

Math o gytundeb: Dros Dro - Cyfnod Mamolaeth

Cyflog: £29,779 y flwyddyn pro rata

Lleoliad: Penygroes / Gweithio o gartref

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Disgrifiad Swydd DS Swyddog Tai 05.26.pdf

JD Housing Officer 05.26.pdf

Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf

Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf

Dyddiad y cyfweliadau: I'w gadarnhau

Er mwyn sicrhau parhad yn y gwasanaeth hanfodol hwn, mae'r sefydliad yn cadw'r hawl i benodi i'r swydd cyn y dyddiad cau. Anogir ymgeiswyr i wneud cais cyn gynted á phosibl.

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.