Search

Arweinydd Tîm Atal Digartrefedd (dros dro) / Homelessness Prevention Team Leader (temporary)

locationPwllheli, UK
PublishedPublished: Published today
|
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.

Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.

Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.

Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.

Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.

Dyma gyfle i arwain a datblygu ein gwasanaethau tai â chefnogaeth, cefnogaeth symudol a digartrefedd, gan ysbrydoli tîm ymroddedig i ddarparu gwasanaethau rhagorol i bobl ag anghenion isel, canolig ac uchel.

Byddwch yn adeiladu perthnasoedd cryf gyda phartneriaid allweddol, yn cefnogi datblygiad gwasanaethau person-ganolog sy'n darparu "cefnogaeth a mwy", ac yn sicrhau bod gwasanaethau'n gweithredu i'r safonau uchaf ac yn unol â gofynion deddfwriaethol ac ariannwyr.

Cyfle gwych i arwain, datblygu ac effeithio'n gadarnhaol ar fywydau pobl

Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Chelsey Williams, Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd, ar 0300 111 2122.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Dros dro - cyfnod o 12 mis

Cyflog: £32,759 y flwyddyn pro rata

Lleoliad: Pwllheli

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 36 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn (25 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw) gan gynyddu i 41 diwrnod pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth (30 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw

Teithio: 45 ceiniog y filltir

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Disgrifiad Swydd

DS Arweinydd Tim Atal Digartrefedd 1126.pdf

JD Homelessness Prevention Team Leader 1126.pdf

Buddiannau

Pecyn Buddion.pdf

Benefits Package.pdf

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf

Privacy Notice Job Applicant.pdf

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Guidelines for completing your application.pdf

Dyddiad y cyfweliadau: 01.12.2026

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.