Search

Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd / Homelessness Prevention Services Manager

PublishedPublished: Published today
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.

Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.

Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.

Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.

Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â'n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r person cywir a rhywun sy'n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

Arweiniwch y ffordd wrth wneud gwahaniaeth go iawn

Fel Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd dros dro, byddwch yn arwain ac yn ysbrydoli timau cefnogaeth arbenigol i ddarparu gwasanaethau o'r safon uchaf i bobl sy'n wynebu heriau tai a digartrefedd. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu gwasanaethau arloesol sy'n helpu unigolion i gynnal eu tenantiaethau, cryfhau eu llesiant, a chyrraedd eu potensial.

Yn y rôl hon byddwch yn:

Arwain a datblygu timau perfformiad uchel sy'n darparu cefnogaeth o ansawdd rhagorol i bobl ag anghenion isel, canolig ac uchel.

Sicrhau bod ein gwasanaethau atal digartrefedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn cynnig gwerth am arian, ac yn ymateb i anghenion cwsmeriaid drwy ddullAmgylchedd sy'n Wybodus o Safbwynt Seicolegol (PIE).

Sicrhau cydymffurfiaeth fel Darparwr Cefnogaeth Achredig, gan reoli gwasanaethau'n effeithiol ac o fewn cyllideb.

Gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Tai a Chefnogaeth i arwain ar ddatblygiad, twf ac arloesedd ym maes atal digartrefedd.

Adeiladu a chynnal perthnasoedd cryf gyda chomisiynwyr, awdurdodau lleol a phartneriaid statudol a gwirfoddol.

Sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni gofynion Grant Cymorth Tai, cytundebau awdurdodau lleol, a'r ddeddfwriaeth a'r safonau perthnasol ym maes tai, digartrefedd, trais domestig a chefnogaeth.

Os ydych yn arweinydd strategol sy'n angerddol am greu effaith gadarnhaol a datblygu gwasanaethau sy'n newid bywydau, dyma gyfle gwych i ymuno â ni a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Gogledd Cymru.

Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa a'r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw'r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Rhea Humphries, Pennaeth Tai a Chefnogaeth, ar 0300 111 2122.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Dros dro

Cyflog: £44,997 y flwyddyn pro rata

Lleoliad: Penygroes / gweithio o gartref

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos

Gwyliau:

36 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn (25 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw) gan gynyddu i 41 diwrnod pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth (30 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw

Teithio: Hanfodol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Disgrifiad Swydd

DS Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd 09.26.pdf

JD Homelessness Prevention Services Manager 09.26-compressed.pdf

Buddiannau

Pecyn Buddion.pdf

Benefits Package.pdf

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf

Privacy Notice Job Applicant.pdf

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Guidelines for completing your application.pdf

Dyddiad y cyfweliadau: 06.10.26

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.