Search

Swyddog Tai a Chefnogaeth / Supported Housing Officer

PublishedPublished: Published today
Social care
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.

Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.

Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.

Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.

Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.

Ydych chi'n angerddol am bobl, cymunedau a darparu gwasanaethau rhagorol? Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phroffesiynol i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol, cefnogi tenantiaid, a helpu i ddarparu gwasanaethau tai o'r safon uchaf yn ein cymunedau.

Byddwch yn:

Wyneb a llais Grŵp Cynefin, gan weithredu fel y prif gyswllt i denantiaid, Asiantau Rheoli, gweithwyr proffesiynol a chymunedau lleol.

Adeiladu perthnasoedd cryf ac yn cydweithio ag Asiantaethau Rheoli, darparwyr cefnogaeth a chydweithwyr i sicrhau bod tenantiaid yn derbyn gwasanaethau tai o'r safon uchaf, mewn amgylchedd diogel, croesawgar a chefnogol.

Chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod cartrefi'n cael eu gosod yn effeithiol, bod incwm rhent yn cael ei uchafu, a bod materion megis ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu rheoli'n rhagweithiol ac yn sensitif.

Ymuno â thîm tai â chefnogaeth deinamig sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol sy'n canolbwyntio ar y tenant, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl bob dydd.

Grymuso tenantiaid drwy ddatblygu cyfleoedd ystyrlon i gymryd rhan, dylanwadu ar wasanaethau a helpu i lunio cymunedau cryfach a mwy bywiog.

Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa a'r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw'r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Gwenan Ellis, Rheolwr Tai â Chefnogaeth, ar 0300 111 2122.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £29,779 - £33,515 y flwyddyn

Lleoliad: Dinbych / Gweithio o gartref

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Teithio: Hanfodol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Disgrifiad Swydd

DS Swyddog Tai a Chefnogaeth.pdf

JD Supported Housing Officer3.pdf

Buddiannau

Pecyn Buddion.pdf

Benefits Package.pdf

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf

Privacy Notice Job Applicant.pdf

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Guidelines for completing your application.pdf

Dyddiad y cyfweliadau: 20.10.26

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl Oedolion gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.